Yr Oen a laddwyd ydyw rhan, A holl hyfrydwch f'enaid gwan! 'Fu neb o feibion Adda erioed A rhwymau mwy i ganu ei glod. Ni phrofais ddim o tan y nef Mor felys a'i gyfeillach Ef; Pe chwilid, ni chaid dim i maes, Trwy'r nefoedd fry, bereiddiach blas. Rhagori ar ddeng-mil mae ei wedd, 'Rwy'n llawn foddloni ar ei hedd; Ni cheisiaf bleser tan y nef Ond digon o'i gyfeillach Ef. Ei ganmawl bellach wnaf o hyd, Er maint o boenau sy'n y byd; Dechreuais gân a bery'n hwy Nag y cair diwedd arni mwy. - - - - - Yr Oen a laddwyd ydyw rhan, A holl hyfrydwch f'enaid gwan; Fy Mrawd a 'Mhriod fydd ef mwy Yn mhob cyfyngder elwyf trwy. A doed hi arnaf fel y dêl, Ymffrostiaf ynddo byth heb gêl; Fu neb o feibion Adda erioed A rhwymau mwy i ganu ei glod. Pwy o honoch chwi, gerubiaid pur, Seraphiaid ac angylion gwir, A gafodd y fath fraint a mi Trwy angeu'r Iesu ar Galfari? Wel, bernwch, chwithau seintiau 'gyd, Sy'n teithio tua'r nefol fyd: Mi'r dua' oll; ond 'nyled yw Moliannu mwy ar f'anwyl Dduw. O barna, dithau ddaiar faith, Sy'n dal cenhedloedd o bob iaith, Neb arnat' fu, neu arnat' sy' Mwy rhwym i ddiolch na myfi? Pe agorai'r Iesu uffern goll, A roddi i'r ellyllon oll Ryw jubil faith, heb boenau mwy, Byddai arnai diolch fel hwynthwy. - - - - - Yr Oen a laddwyd ydyw rhan, A holl hyfrydwch f'enaid gwan; Cael huno yn ei gariad drud, Sydd fil o weithiau'n well na'r byd. Anturio wnaf at orsedd nef, Mae'm holl ymddiried ynddo ef; Mae'r ffordd yn rhydd, mae'r rhodd yn rhad, I'r sawl a gredo yn y gwaed. Annrhaethol felus yw dy hedd, A'th gariad sydd yn hyfryd wledd: Cael prawf o'i flas ddymunaf mwy, Nes llwyr iachâu fy nwfn glwy'.William Williams 1717-91
Tôn [MH 8888]: gwelir: Dyma gyfarfod hyfryd iawn Fy Iesu Pen-tywysog nef Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' Yn fynych fynych Iesu cu |
The Lamb who was slain is the portion, And all the delight of my weak soul! None of the sons of Adam ever had Greater bonds to sing his acclaim. I experienced nothing under heaven So sweet as His friendship; If it were sought, nothing would be found, Throughout heaven above, with a sweeter taste. Superior to ten-thousand is his countenance, I am fully satisfied with his peace; I shall seek no pleasure under heaven But sufficient of His friendship. Praise him henceforth I shall always, Despite how many pains are in the world; I began a song that shall endure long Nor shall any end ever be found to it. - - - - - The Lamb who was slain is the portion, And all the delight of my weak soul; My Brother and my Spouse he shall be evermore In every strait I go through. And come it upon me as it may, I shall boast in him forever without a lie; None of the sons of Adam ever had Greater bonds to sing his acclaim. Who of you, pure cherubim, Seraphim and true angels, Got such a privilege as I Through the death of Jesus on Calvary? See, judge, all ye saints, Who travel towards the heavenly world: I the blackest of all; but is not my duty To praise evermore my beloved God? O judge, thou vast earth, That holds the nations of every language, On thee was not, nor on thee is A greater bond to thank than upon me? If Jesus should open lost hell, And grant to all the demons Some vast jubilee, with no more pains, I would have to give thanks like they. - - - - - The Lamb who was slain is the portion, And all the delight of my weak soul; To get to sleep in his precious love, Is a thousand times better than the world. Venture I shall to the throne of heaven, All my trust is in him; The way is open, the gift is free, To those who believe in the blood. Unutterably sweet is thy peace, And thy love is a delightful feast: To get an experience of its taste I wish for evermore, Until completely healing my deep wound.tr. 2019,20 Richard B Gillion |
|